cy

Personal

Symud Tŷ

Symud Tŷ

Efallai eich bod yn gofyn am storio dros dro tra eich bod yn disgwyl i drefniadau prynu eich cartef gael eu cwblhau? Gydag unedau ar gael i’w llogi am cyn lleied ag un wythnos, byddwn yn gwneud storio eich eiddo yn hawdd gyda chyngor cyfeillgar a phroffesiynol.

Adnewyddu

Adnewyddu

Gall addurno neu adnewyddu eich cartref neu eiddo fod yn waith anniben ac aflonyddgar felly pam na wnewch chi sicrhau fod un peth yn llai gyda chi boeni amdano trwy osgoi difrod i’ch eiddo. Gallwch ofyn am uned fwy neu lai ar unrhyw adeg yn ystod eich prosiect sydd felly yn rhoi hyblygrwydd llawn i chi.

Teithio

Teithio

P'un ai ydych yn mynd ar flwyddyn i ffwrdd neu'n bwriadu ymfudo, mae’n bosib y bydd angen storio eich eiddo am rai misoedd neu o bosib flynyddoedd. Rydym yn cynnig amrywiaeth o becynnau disgownt tymor hir i gyd-fynd â'ch cyllideb.

Storio i Fyfyrwyr

Storio i Fyfyrwyr

Rydym wedi ein lleoli yn agos at Goleg Llandrillo yn Llandrillo yn Rhos a gallwn gynnig yr opsiwn gorau i chi er mwyn storio eich eiddo dros wyliau’r haf.

Offer Gwyliau

Offer Gwyliau

Mae Gogledd Cymru yn gyrchfan gwyliau poblogaidd i berchnogion carafan, ac i berchnogion cychod ac offer chwaraeon dŵr yn ogystal. Gallwn gynnig gwasanaeth storio sych a diogel i eitemau sydd yn llawer rhy llafurus i’w cludo gyda chi bob tro fyddwch chi’n ymweld.

Arweiniad Gofod

25

Maint Uned 25 tr sg

Tua 20 bocs mawr; Cwpwrdd dan grisiau maint sylweddol; 1 llwyth fan fach; perffaith os ydych angen cael trefn ar eich tŷ

35

Maint Uned 35 tr sg

Tua 48 bocs cardfwrdd mawr; tua maint ystafell cadw stoc fechan; 1 llwyth fan Transit; Fflat 1 ystafell wely

50

Maint Uned 50 tr sg

Tua 64 bocs cardfwrdd mawr; tua maint ystafell cadw stoc ganolig; 1 llwyth fan Box Luton; Cynnwys 2 lwyth fan Transit; Fflat 2 ystafell wely

75

Maint Uned 75 tr sg

Tua 60 bocs cardfwrdd mawr; tua maint swyddfa fechan neu ystafell cadw stoc mawr; 2 neu 3 llwyth fan; Tŷ 2 ystafell wely

100

Maint Uned 100 tr sg

Tua 144 bocs cardfwrdd mawr neu gynnwys garej arferol; Maint swyddfa 10'x10' neu ystafell cadw stoc; 4 x llwyth fan Transit; Tŷ pâr 3 ystafell

125

Maint Uned 125 tr sg

Tua 144 bocs cardfwrdd mawr neu gynnwys garej arferol; Maint swyddfa 10'x10' neu ystafell cadw stoc; 4 x llwyth fanTransit; Tŷ 3 ystafell mawr

150

Maint Uned 150 tr sg

Gofod anferthol sy’n gallu storio 256 bocs cardfwrdd mawr; Maint swyddfa fawr neu ystafell cadw stoc sy’n cynnwys gofod i weithio ynddi; 6 llwyth fan Transit; Tŷ 4 ystafell wely

200

Maint Uned 200 tr sg

Dros 300 bocs mawr neu gratiau; Gofod sy’n cyfateb i storfa warws fechan; Dros 8 llwyth fan transit; Tŷ 4 i 5 ystafell wely

300

Maint Uned 300 tr sg

Dros 500 bocs cardfwrdd mawr neu grât; Gofod gweithio helaeth; Gofod archifo mawr wedi ei racio; Hanner Palas Buckingham

Dyfynbris Cyflym

Cookies

We use analytical cookies that need your permission. For more details and advanced options view our Cookies Policy.